Rydym angen eich barn!Rydym yn gwneud cais am arian NLHF i uwchraddio a datblygu’r dafarn ac yn casglu barn pobl leol am sut gall y prosiect weithio orau. Byddem yn ddiolchgar pe gallech gymryd 10 munud i ateb yr arolwg. Diolch am eich cefnogaeth!
Cliciwch yma i agor yr arolwg
Rydym yn fenter gymunedol sy’n rhedeg Tafarn y Plu a llety Capel Bach yn nghanol pentref hardd Llanystumdwy.
Tafarn y Plu
Oriau agor
Llun: Mawrth: Mercher: Iau: Gwener: Sadwrn: Sul:
Ar gau Ar gau 3 – 10pm 3 – 10pm 3 – 11pm 1 – 11pm 3 – 9pm
Tafarn draddodiadol Gymreig gyda llwyfan tu allan.
Nid ydym yn gweini bwyd yn y dafarn ar hyn o bryd.
Ewch i’n tudalen digwyddiadau am ein digwyddiadau amrywiol.
Os hoffech drefnu digwyddiad preifat, cysylltwch â ni efo’ch syniad a mi wnawn drio ein gorau i’ch plesio!
Tu allan i’r dafarn rydym hefyd yn rhedeg siop fach hunan wasanaeth sydd yn llawn cynnyrch o bob math – ar agor bob dydd o 8 o gloch y bore!
Capel Bach
Mae’r capel hunanarlwyo hwn yn darparu llety unigryw i hyd at 6 o bobl, a mae o drws nesaf i Dafarn y Plu. Archebwch eich gwyliau ar-lein!